Helo, dwi’n Kerry.

Fy Stori

Camais i fyd busnes yn 2013, cyn hynny roeddwn wedi gweithio ym maes lletygarwch am 8 mlynedd. Heb os nac oni bai, dysgodd y diwydiant lletygarwch lawer o’r sgiliau roedd eu hangen arnaf i redeg fy musnes fy hun, yn ogystal â sut i drefnu fy ngwaith a’m hastudio – TGAU, Safon Uwch, BSc ac yn olaf MSc.

Yn 2013, dechreuodd Gwe Cambrian Web, menter busnes ar y cyd gyda fy mhartner Emlyn. Sylwon ni bod na fwlch yn y farchnad o ran dylunio a datblygwyr gwefannau dwyieithog (Cymraeg). Tyfodd y busnes yn raddol iawn o flwyddyn i flwyddyn, ac erbyn 2015 llwyddais i adael fy swydd “llawn amser”, a bwrw fy holl ymdrechion i Gwe Cambrian Web.

Heb os nac oni bai, roedd 2020 yn flwyddyn enfawr i’n busnes, ac i mi hefyd. Gyda’r pandemig, edrychon ni ar ffyrdd o addasu’r busnes, manteisio ar y naid enfawr i ddigidol roedd llawer o fusnesau’n gymryd, y gwahanol ffyrdd o gefnogi busnesau bach, yn ystod yr hyn, oedd, a sydd dal i fod, yn gyfnod anodd iawn. Gyda llawer o waith caled ac egni, cryn dipyn o ddysgu a rhwydweithio tyfodd y busnes a nawr, ym mis Rhagfyr 2022, rydym bellach yn cyflogi 4 aelod o staff sy’n gam hynod gyffrous i ni.

Un o’r pethau gorau gennyf fi am redeg busnes yw’r dysgu cyson. O oedran ifanc roeddwn wastad wrth fy modd yn dysgu, ac mae gweithio ym maes technoleg a digidol yn golygu na fyddwch chi byth yn gwybod popeth. Rwy’n mynychu cynadleddau digidol a chyfryngau cymdeithasol (edrychwch ar fy mlog dros 2020 ar gyfer y rhain) ledled y DU yn ogystal â sicrhau fy mod bob amser ar flaen y gad gyda’r newidiadau diweddaraf a’r platfformau newydd. Yn ystod 2020 fe wnes i basio arholiad Cyswllt Marchnata Digidol Facebook Blueprint, ac yn 2021 arholiad Rheoli Cymunedol Facebook Blueprint. Mae’n bwysig i mi barhau i dyfu, barhau i ddysgu a pharhau i ddatblygu.

Rwy’n falch iawn o fod yn rhan o’r adran Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Aberystwyth ble rwyf yn dysgu 3 modiwl i’w carfan ar-lein – Creu Podlediadau, a Marchnata Cyfryngau Cymdeithasol (Cymraeg) a nifer fwy yn yr iaith Saesneg.

O ran y gymuned dwi’n hoffi cadw’n brysur ac mae mor bwysig i ni fel busnesau bach hefyd. Rwy’n Gynghorydd Tref yma yn Aberystwyth, Llywodraethwr yn Ysgol Plascrug ac Ysgol Penglais, ac yn gyfarwyddwr Menter Aberystwyth. Yn ddiweddar cefais fy ethol yn Llywydd Rotari Ardal Aberystwyth, a Cadeirydd Clwb Busnes Aberystwyth.

Fy Ngwerthoedd a’m Credoau

Gonestrwydd a thryloywder yn allweddol

Yn fy marn i mae hyn yn hollol greiddiol – boed mewn busnes, gwleidyddiaeth, trefnu digwyddiadau. Os na allwch fod yn onest neu’n dryloyw, yna sut allwch chi greu brand cryf, uchel ei barch?

Ewch amdani

Yn 2018, enillais wobr wnaeth wirioneddol newid fy ffordd o edrych ar bethau. Roedden ni wedi ennill gwobrau o’r blaen, ac roeddwn i wedi ennill gwobr nôl yn 2016, ond y broses ar gyfer y wobr arbennig hon sydd wedi bod mor werthfawr i mi. Y wobr wnes ei hennill oedd Entrepreneur Ifanc y Flwyddyn (Rhanbarthol, Cymru, Gogledd Orllewin a Gogledd Iwerddon) yn y ‘Forward Ladies National Summit a Awards’. Wedi’r rownd ranbarthol, cafwyd diwrnod beirniadu byw. Ro’n i’n cymryd yn ganiataol y byddem yn cael ein cwestiynu’n dwll yn arddull yr ‘Apprentice’, ond roedd yn hollol i’r gwrthwyneb! Des i oddi yno yn teimlo, nid yn unig i mi gael fy llwyr ysbrydoli, ond gyda llawer o wybodaeth a syniadau, yn ogystal ag arwyddair newydd i mi fy hun: ewch amdani.

Gallaf ddweud yn gwbl onest, o’r profiad hwn, dydw i ddim wedi edrych yn ôl.

Mae’r cyfryngau cymdeithasol ar gyfer pawb

Ar draws y we ceir llawer o wefannau sy’n ‘egluro’ y gyfryngau cymdeithasol ac mae rhain yn llygad eu lle. Dim rhyw ddewiniaeth hud yw’r cyfryngau cymdeithasol, maent yna ar gyfer pawb, ac yn agored i bawb i’w defnyddio hefyd. Dydw i ddim y math o fenyw busnes i gadw cyfrinachau i mi fy hun, oherwydd yn y pen draw, be ydi’r pwynt?

Facebook Blueprint: Digital Marketing Associate

Facebook Blueprint: Community Manager

Fy agwedd

Fel gydag unrhyw beth dwi’n ei wneud, mae’r cyfan wedi selio ar fod yn onest ac yn dryloyw. Wnâi ddim gwerthu i chi wasanaeth nad oes ei angen arnoch – iawn, efallai y byddaf yn colli allan ar fusnes, ond mae’n llawer gwell gen i ichi ddod yn ôl ata i pan fyddwch chi eisiau rhywbeth rydych chi wir ei angen!

Fy ffordd i o fynd o gwmpas pethau yw: dewch inni gyfarfod, gadewch i ni siarad a mi awn ymlaen o’r fan yno. Dydw i ddim yma i draethu, mae’n well o lawer gen i berthynas gytbwys agored gyda pawb yn cael dweud eu dweud. Wedi’r cyfan, eich busnes chi yw e.