Ymgynghoriaeth Cyfryngau Cymdeithasol
Ydy hi’n amser codi’ch brand i’r lefel nesaf ar y cyfryngau gymdeithasol?
Mae hi mor hawdd chwarae’n saff a diogel ar y cyfryngau cymdeithasol, yn enwedig os ydych chi wedi bod yn gwneud y marchnata ers tro. Gall fod yn anodd bod yn arbrofol, neu lunio syniadau a strategaethau ymgyrchu newydd. Dyma lle mae ymgynghoriaeth yn werthfawr – yr ail bâr o lygaid, pen newydd yn llawn syniadau neu hyd yn oed ond i roi y cadarnhad hwnnw bod yr hyn rydych chi’n ei wneud yn wych. Mae popeth rwy’n ei wneud yn bwrpasol i’ch platfformau busnes a chyfryngau cymdeithasol chi. Byddaf yn gwrando ar eich anghenion a’ch nodau ac yn rhoi gwybod i chi beth allwn ni ei wneud i fynd â chi i’r lefel nesaf.
Beth mae ymgynghori ar gyfryngau cymdeithasol yn ei gynnwys?
Dadansoddiad o'ch presenoldeb a'ch proffiliau ar y cyfryngau cymdeithasol (archwiliad)
Datblygu strategaeth wrth symud ymlaen
Edrych ar sut i wneud y gorau o'ch proffiliau
Edrych ar eich cystadleuaeth
Ymgysylltu â ffrwd newyddion a chymunedol
Ateb eich cwestiynau a'ch ymholiadau
Rhannu fy ngwybodaeth, awgrymiadau, triciau, cyngor a mwy
Archwiliadau, ac ymgynghoriaethau hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn
Mae hyblygrwydd i’m pecynnau, oherwydd mae’r cyfan yn dibynnu ar yr hyn rydych chi’n chwilio amdano gan eich ymgynghorydd cyfryngau cymdeithasol.
Os mai adroddiad (neu archwiliad) rydych ei angen, dim problem! Gallaf hefyd dreulio hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn gyda chi’n mynd trwy eich cyfryngau cymdeithasol, trafod syniadau, strategaeth sgwrsio a mwy.
Beth yw ymgynghorydd cyfryngau cymdeithasol?
Meddyliwch amdanaf fel estyniad o’ch adran farchnata, person ychwanegol ar y tîm marchnata. Byddaf yn cynnig fy nghyngor gonest i chi ar sut i greu strategaeth cyfryngau cymdeithasol lwyddiannus, wedi’i deilwra ar gyfer eich busnes.
Os ydych chi’n chwilio am gyngor a’r pâr ychwanegol yna o lygaid, mae ymgynghoriaeth yn berffaith i chi. Os ydych chi eisiau mwy o help ar-lein, tarwch olwg ar fy phecynnau rheoli cyfryngau cymdeithasol.