Helo, fi yw Kerry
Rwy’n helpu busnesau fel chi teimlo’n hyderus hefo’i farchnata digidol.
Mae marchnata digidol yn fwy na dim ond post Facebook.
Gadewch i ni fynd i’r afael â beth yw eich nodau, pwy yw eich cynulleidfa a sut i greu cynnwys gwych a fydd yn eich helpu i deimlo’n hyderus gyda’ch marchnata.
Fel tiwtor, model rôl a mentor busnes – rydw i yma i’ch helpu chi i ddod o hyd i’ch ffordd ym myd marchnata digidol. Ei dorri i lawr yn gamau syml, gyda dos o onestrwydd a chyngor ar hyd y ffordd.
Helo
Fi yw Kerry
Gadewch i mi eich helpu i ddeall pŵer cyfryngau digidol a chymdeithasol.
Dwi’n frwdfrydig iawn dros fusnesau bach fel chi, ac i weld cyfryngau digidol a chymdeithasol yn cael eu defnyddio’n effeithiol er eich budd. Rydw i wedi bod yn gweithio gyda chleientiaid ar strategaethau cyfryngau cymdeithasol, ymgynghoriaeth marchnata digidol a mwy, ers dros 9 mlynedd.
Sut alla i helpu eich busnes chi?
Gwasanaethau
Yw hyn dwi’n cynnig
Ymgynghoriaeth ac Hyfforddiant Cyfryngau Cymdeithasol
Fy gwasanaethau mwyaf poblogaidd
Rwy’n darparu hyfforddiant ar gyfer llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a strategaethau marchnata digidol ynghyd ag ymgynghoriaeth. Yn ystod 2022, bûm yn gweithio gyda Chyngor Gwynedd, Mentrau Iaith Cymru, Busnes Cymru a Phrifysgol Aberystwyth i ddarparu ystod o’r gwasanaethau poblogaidd hyn. Os hoffech gael hyfforddiant, ymgynghoriaeth neu awr bŵer, cysylltwch â mi.
Rheoli Cyfryngau Cymdeithasol
Yr hen faffryn
Rwyf wedi bod yn rheoli proffiliau cyfryngau cymdeithasol ar gyfer busnesau ers 2007. Gweithio gyda’ch nodau busnes a’ch cynulleidfa i wneud yn siŵr bod eich marchnata yn rhoi cyfle gwych i chi drosi’r cwsmeriaid holl bwysig hynny. Ardystiedig hefo Meta Blueprint.
Dylunio a Datblygu Gwefannau
Y bara a menyn o unrhyw fusnes
Dylunio a datblygu gwefannau yw’r man cychwynnodd fy nghwmni yn 2013, ac er fy mod yn angerddol am y cyfryngau cymdeithasol a’r cyfleoedd y mae’n eu cyflwyno, mae angen presenoldeb gwefan cryf ar bob busnes hefyd.
Eisiau pâr ychwanegol o lygaid ar eich gwefan? Rwy’n darparu archwiliadau, yn ogystal â dylunio a datblygu gwefannau.
Yr hwn dwi’n ‘neud
Helpu i chi deimlo’n hyderus gyda’ch strategaeth marchnata digidol. Edrych ar eich gwefan, marchnata cyfryngau cymdeithasol a mwy.
Mor hawdd a 1,2,3
Cwestiynau Cyffredin
Does gen i ddim syniad am y cyfryngau cymdeithasol. Allwch chi helpu?!
Medraf eich helpu o’r cychwyn cyntaf. Byddwn yn mynd yn ôl at yr hanfodion ar y platfformau cyfryngau cymdeithasol rydych am eu defnyddio ar gyfer eich busnes ac yn gweithio gyda’n gilydd i sicrhau bod gennych ddealltwriaeth drwyadl o’r hyn sy’n bosib!
Allwch chi redeg fy nghyfryngau cymdeithasol i mi?
Gallaf, rwy’n cynnig amrywiaeth o becynnau ar gyfer rheoli cyfryngau cymdeithasol. Os ydych chi’n credu bod hwn yn opsiwn rydych chi am edrych arno, yna cysylltwch a chawn sgwrs!
Dwi'n defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol, ond does gen i ddim strategaeth...
Yn dibynnu ar faint eich busnes, nid yw hyn bob amser yn beth *drwg*, ond byddwn i’n argymell gosod rhyw fath o strategaeth yn ei lle! Nid yw pob strategaeth yn addas ar gyfer pob busnes, felly gweithiwch gyda mi i ganfod yr un sy orau i chi.
A allwch chi fy helpu gyda fy mrand?
Dwi wrth fy modd gyda brandio! Dydw i ddim yn dylunio logos, ond yr hyn sydd orau gennyf yw sicrhau bod neges y brand yn cael ei gyfleu’n effeithiol. Nid eich logo yn unig yw’r brand, mae’n dôn y llais, yr iaith, y ffontiau, y lliwiau, yr arddull…
Dwi'n defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol yn aml, ond ydw i'n mynd ati y ffordd iawn?
Dyma, mae’n debyg, y cwestiwn mwyaf cyffredin i mi gael ei ofyn. Yn aml iawn, dydy pobl ddim yn siŵr os ydyn nhw’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn effeithiol. Gofynnwch i ‘ch hun, a ydy o’n gweithio i’ch busnes?
Marchnata’n Hawdd
Cylchlythyr
Cofrestu ar gyfer newyddion misol
Pa blatfform cyfryngau cymdeithasol?
Yn gynharach yn y mis, er bod ni ar gau i gleientiaid, aethom ati i dreulio'r wythnos yn gweithio ar nodau ein cwmni a’n busnes ni. Pan fyddwch chi mor brysur o wythnos i wythnos gyda chleientiaid, yn aml mae’n hawdd llaesu dwylo gyda’ch busnes’ch hun. Roeddem felly...
Gosod Nodau ar gyfer 2022
Yr wythnos diwethaf, er ein bod ar gau i gleientiaid, cawsom wythnos wedi'i neilltuo dim ond i'r busnes ei hun. Mae'n haeddu rhywfaint o faldod. Mor hawdd yw canolbwyntio ar waith eraill trwy’r flwyddyn ar draul diweddaru gwefannau, neu weithio ar eich busnes eich...
Cynllunio eich cynnwys Cyfryngau Cymdeithasol ymlaen llaw
Mae cadw fyny â phostio ar eich platfformau cyfryngau cymdeithasol yn tipyn o gamp. Yn ogystal, os ydych chi ar nifer o blatfformau gall fod yn anodd ymdopi gyda phopeth arall sydd angen i chi ei wneud. Dros y blynyddoedd dwi wedi defnyddio amryw o 'dechnegau'...