Yr wythnos diwethaf, er ein bod ar gau i gleientiaid, cawsom wythnos wedi’i neilltuo dim ond i’r busnes ei hun. Mae’n haeddu rhywfaint o faldod. Mor hawdd yw canolbwyntio ar waith eraill trwy’r flwyddyn ar draul diweddaru gwefannau, neu weithio ar eich busnes eich hun.
Felly, wythnos gyfan wedi glustnodi i’r busnes a’n nodau ar gyfer y dyfodol. A dyma fi’n cael syniad, beth am bostio ar fy ngwefan fy hun fy nodau i ar gyfer 2022 fel rhyw fath o gyfrif? Byddwn i wrth fy modd yn gwybod beth yw eich amcanion chi hefyd!
- Ewch ati i ysgrifennu y llyfr hwnnw! Yn 2021, roeddwn i wir eisiau ysgrifennu llyfr yn ymwneud â busnes. Mae llawer ar gael yn Saesneg, ond mae yna bendant fwlch yn y farchnad yn y Gymraeg.
- Lansio ein cyrsiau ar-lein – dyma nod sy’n gysylltiedig â busnes, ond un rydw i wir eisiau ei gyflawni hefyd. Eto, credaf bod cymaint o alw am gyrsiau Cymraeg ar-lein, ac mae’n rhywbeth dwi eisiau helpu i arwain y blaen arno.
- Garddio. Yn 2020, dechreuais wneud ychydig bach o arddio. Yn ystod cyfnod clo 2 ar ddechrau 2021, fe adnewyddo ni ein gardd yn llwyr er mwyn gallu tyfu mwy (3 gwely a llawer o botiau). Eleni, mae gen i ddigon o lyfrau, cyfnodolyn a LLAWER mwy o botiau, planhigwyr ac un gwely ychwanegol. Felly, ymlaen a’r garddio eleni, ac yna’r piclo.
- Ymarfer Corff. Yn 2021, fe gofrestrais hefo Ffitrwydd Bethan Davies. Am 4 mis cynta’r flwyddyn roeddwn yn cael budd mawr o’r grŵp YC. Aeth hi’n brysur wedyn, a beryg i mi wneud gormod o esgusodion pam na allwn fynd. Fodd bynnag, erbyn diwedd 2021 roeddwn i’n teimlo’n hollol flin fy mod wedi gwastraffu 4 mis o waith, ac yn y bôn roeddwn yn ôl ble dechreuais. Felly, eleni, dwi’n mynd i ganolbwyntio ar fy hun mwy – fy nghorff, y bwyd dwi’n ei fwyta a’r ymarfer dwi’n ei wneud. Mi gymer amser, ond mae’n rhaid i mi aros yn ymroddedig y tro hwn.
Efallai y byddaf yn ychwanegu at rhain … Gawn ni weld! Gadewch i mi wybod eich nodau chi🙂