Dros yr haf rwyf wedi bod yn gweithio gydag ystod o gleientiaid newydd, a hefyd yn paratoi fy nghwrs cyfryngau cymdeithasol arfaethedig i Brifysgol Aberystwyth. Wrth gynllunio gwersi, neu sgwrsio â chleientiaid, dwi wedi gwneud nodyn o rai pethau ddaeth i’r meddwl.

Un ohonyn nhw oedd – pam ein bod ni’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol? Yn aml dwi’n gweld cleientiaid yn poeni’n ormodol faint o egni ac ymdrech sydd angen iddynt roi i’w marchnata, a dwi’n meddwl ein bod ni’n aml yn anghofio pam ein bod ni ar y cyfryngau cymdeithasol yn y lle cyntaf.

Yr hanfod, wrth gwrs yw ein bod ar y cyfryngau cymdeithasol i farchnata ein cynnyrch. Fodd bynnag, yr hyn byddaf bob amser yn atgoffa fy nghleientiaid ohono, ac yn ei grybwyll yn fy nghwrs yw – bod y cyfryngau cymdeithasol i gyd yn ymwneud a bod yn gymdeithasol. Rwy’n credu y gallwn lynu cymaint at ein strategaeth neu gynllun cynnwys (neu hyd yn oed, diffyg hyn) fel ein bod yn ei anghofio.

Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn offeryn rydyn ni’n ei ddefnyddio i ddod o hyd i’n cynulleidfa, cysylltu â nhw a gobeithio eu bod nhw wedyn yn cysylltu ac yn ymwneud â ni. Dyw e ddim mor gymhleth ag yr ydym yn tueddu i feddwl. Does dim rhyw swyn hud sy’n golygu y bydd ein un post yn mynd yn feirol. Does dim rheolau penodol ynglŷn â’r hyn y dylen ni neu na ddylen ni eu postio.

Yn y pendraw, mae i gyd i wneud a sicrhau bod ein cynnwys yn berthnasol. Ydy’n cynulleidfa ni yn perthnasu gyda ni am fod ganddyn nhw’r un problemau neu heriau, neu’r un llwyddiannau? Ydyn ni’n gallu uniaethu ar yr un lefel am ein troeon trwstan coginio, neu ein gamgymeriadau siopa?

Rydyn ni i gyd yn ddynol wrth gwrs a bydd arddangos y person ydych chi tu ôl i’ch cyfryngau cymdeithasol a gadael i’r person hynny ddisgleirio drwyddo, yn talu ar ei ganfed i’ch marchnata. Mae hefyd yn ei gwneud hi’n llawer haws cynllunio a meddwl amdano hefyd, pan fyddwn ni’n cofio bod yn rhaid i ni fod yn gymdeithasol, bod yn ddynol.

Felly, y tro nesaf rydych chi’n torri’ch calon am, neu’n wylofain mewn anobaith fod y cyfryngau cymdeithasol yn rhy galed neu nad oes gennych ddim syniad beth i’w wneud – ewch yn ôl i’r hanfodion. Byddwch yn chi ’ch hun!