Yn gynharach yn y mis, er bod ni ar gau i gleientiaid, aethom ati i dreulio’r wythnos yn gweithio ar nodau ein cwmni a’n busnes ni. Pan fyddwch chi mor brysur o wythnos i wythnos gyda chleientiaid, yn aml mae’n hawdd llaesu dwylo gyda’ch busnes’ch hun. Roeddem felly wir yn awyddus i dreulio’r amser yn sgwrsio, rhannu syniadau a sicrhau bod popeth yn ei le ar gyfer gwneud 2022 yn arbennig.

Yn ystod un o’n sesiynau trafod, buom yn nodi rhestr o awgrymiadau gorau ar gyfer cyfryngau cymdeithasol. Roedd y syniadau yn bennaf ar gyfer Reels ar Instagram, ond yn fuan arweiniodd y drafodaeth i drafod a ddylen ni ddefnyddio TikTok, arallgyfeirio mewn i Clubhouse, neu ddefnyddio Spaces ar Twitter.

Gwnaeth hyn i mi feddwl – rydym ni, fel cwmni, yn hyddysg iawn â’r un platfformau rydyn ni wastad wedi’u defnyddio: Facebook, Twitter, LinkedIn ac Instagram. Rydym yn bendant yn cofleidio unrhyw ddiweddariadau a newidiadau newydd, ac yn sicrhau ein bod yn gwneud defnydd llawn o’r swyddogaeth. Fodd bynnag, pan ddaw platfformau newydd i’r fei, sut ydych chi’n penderfynu a ddylech chi roi mwy o amser iddyn nhw?

Er enghraifft, rydyn ni’n defnyddio’r pedwar platfform uchod yn rheolaidd, ac rydyn ni hefyd yn blogio. Mae hyn yn waith caled i fusnes bach, ond o ystyried ein maes o arbenigedd rydym am arwain drwy esiampl, a bod yn bresennol ar-lein.

Dros y 12 mis diwethaf mae ambell un wedi dweud wrtha i y dylen ni’n bendant fod ar y llwyfannau eraill. Rydyn ni eisoes yn edrych ar TikTok, Clubhouse, Reddit – ac mae’n siŵr bod sawl un arall. Sut ydych chi felly yn dewis pa blatfform i’w ddefnyddio – tra hefyd yn cydnabod mai dim ond oriau cyfyngedig sydd o fewn diwrnod gwaith a bod angen i chi ganolbwyntio ar y gwaith bara menyn er mwyn ennill arian i dalu’r biliau.

Yna trodd fy meddwl at ddadansoddeg (yn naturiol!). Fodd bynnag, faint ellir ymddiried yn y rheini? Dwi’n ymwybodol bod llawer o’n ymholiadau i’r busnes yn dod trwy Facebook ac argymhellion personol; ond eto byddai ein dadansoddeg yn awgrymu ein bod yn gwneud yn dda iawn ar Instagram a Twitter. Wrth gwrs, rydym yn gwybod i gymryd dadansoddeg gyda phinsiad o halen, dydyn nhw ddim yn rhoi’r darlun llawn i chi – ond mae hynny’n ei gwneud hi’n anoddach i mi benderfynu a ydyn ni’n buddsoddi mwy o amser mewn platfform newydd neu beidio, ac ydyn ni’n gwneud hynny yn ychwanegol at yr ymdrechion sydd eisoes yn eu lle.

Yna, rhaid meddwl am y gynulleidfa darged – i ni mae’n gynulleidfa weddol eang. Rydym yn targedu busnesau a sefydliadau bach, a staff y busnesau a’r sefydliadau hynny a allai fod â diddordeb mewn gwefannau, hyfforddiant WordPress, cyfryngau cymdeithasol a marchnata digidol. Mae’n eithaf eang, a dyna pam rydym o’r farn bod y 4 platfform rydyn ni’n eu defnyddio ar hyn o bryd yn gweithio’n dda. Er enghraifft ar LinkedIn rydym yn canolbwyntio ar bostio busnes i fusnes, tra efallai ar Twitter mae mwy o ganolbwyntio ar sefydliadau na busnesau bach. Mae i bob platfform ei rinweddau a’u strategaeth ei hun gennym ni.

Wrth gwrs, rwy’n amau mai’r y gwir yw na fyddwn yn gwybod nes byddwn ni’n profi. Ydyn ni felly’n rhoi rhywfaint o amser ychwanegol ar gyfer treialu platfform newydd i weld sut mae’n gweithio i ni, tra’n ceisio ailfeddiannu cynnwys?

Beth fyddech chi’n ei wneud?