Rheoli Cyfryngau Cymdeithasol

Mae rheoli cyfryngau cymdeithasol yn fwy poblogaidd nag erioed.

Mae rhedeg eich busnes eich hun yn waith llawn amser, a gyda phwysigrwydd cynyddol marchnata digidol, mae yna nifer fwyfwy o bethau y mae angen i chi eu gwneud. Nid dim ond y gwaith o ddydd i ddydd, yr AD, y cyfrifo a meddwl am eich gwasanaethau neu’ch cynnyrch – mae’n rhaid i chi hefyd farchnata eich busnes. Ac mae’r cyfryngau cymdeithasol yn elfen fawr o hyn, yn sicrhau bod gennych chi’r strategaeth cywir, yn cadw ar ben y tueddiadau diweddaraf a sicrhau eich bod chi’n weithgar.

Gallai allanoli eich cyfryngau cymdeithasol fod yr hyn rydych ei angen er mwyn medru canolbwyntio’n fwy ar eich busnes – a gallaf i helpu! Gallaf reoli eich platfformau cyfryngau cymdeithasol i chi, er mwyn lleihau eich pryder amdanynt ac i chi fedru canolbwyntio’n fwy ar waith dydd i ddydd eich busnes. Os oes gennych ddiddordeb, edrychwch ar fy phecynnau isod, neu cysylltwch â mi!

Beth sydd wedi’i gynnwys?

Cyfarfod wyneb yn wyneb - er mwyn i ni allu sgwrsio'n agored am eich nodau, y strategaeth a sut mae'n gweithio

Graffeg, fideos a delweddau unigryw - rydw i bob amser yn gweithio i'ch brand ond hefyd yn gweithio ar wneud i'ch cyfryngau cymdeithasol sefyll allan

Defnyddio'r holl nodweddion - nid yw fy mhecynnau wedi eu cyfyngu fesul oriau neu nodweddion - os daw nodwedd newydd allan, fe’i defnyddir!

Gwirio’r gystadleuaeth - gwneud yn siŵr nad ydyn ni'n gwneud yr un peth, a gwneud yn siŵr ein bod ni'n sefyll allan

Mae ymgysylltu yn allweddol, ac yn rhywbeth rydw i bob amser yn ei gynnwys yn fy phecynnau

Gofynnwch gyngor unrhyw adeg, rydw i yma i gefnogi chi a'ch busnes wedi’r cyfan

Dwi'n ymfalchïo...

Mae fy phecynnau wedi’u cynllunio yn seiliedig ar yr hyn rwy’n ei argymell mewn unrhyw sefyllfa ymgynghori neu hyfforddiant. Fyddai ddim yn cyfyngu fesul awr, wnâi ddim gofyn i chi dalu mwy i mi ymgysylltu â postiadau neu ateb negeseuon na chwaith i mi ddefnyddio holl nodweddion y platfform.

Er enghraifft, fyddwn i ddim yn cytuno i bostio ond unwaith yr wythnos yn unig ar Instagram, gan fyd mod yn argymell i chi wneud mwy er mwyn gwneud i’r platfform hwnnw weithio i chi – mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r Straeon, Guides, Reels, postiadau ac ymgysylltu’n gyson. Mae fy phecynnau i gyd wedi’u cynllunio gyda’r argymhelliad hwn mewn golwg.