Cysylltwch
Gyrru Neges
Cwestiynau Cyffredin
Does gen i ddim syniad am y cyfryngau cymdeithasol. allwch chi helpu?!
Medraf eich helpu o’r cychwyn cyntaf. Byddwn yn mynd yn ôl at yr hanfodion ar y platfformau cyfryngau cymdeithasol rydych am eu defnyddio ar gyfer eich busnes ac yn gweithio gyda’n gilydd i sicrhau bod gennych ddealltwriaeth drwyadl o’r hyn sy’n bosib!
Allwch chi redeg fy nghyfryngau cymdeithasol i mi?
Gallaf, rwy’n cynnig amrywiaeth o becynnau ar gyfer rheoli cyfryngau cymdeithasol. Os ydych chi’n credu bod hwn yn opsiwn rydych chi am edrych arno, yna cysylltwch a chawn sgwrs!
Dwi'n defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol, ond does gen i ddim strategaeth...
Yn dibynnu ar faint eich busnes, nid yw hyn bob amser yn beth *drwg*, ond byddwn i’n argymell gosod rhyw fath o strategaeth yn ei lle! Nid yw pob strategaeth yn addas ar gyfer pob busnes, felly gweithiwch gyda mi i ganfod yr un sy orau i chi.
A allwch chi fy helpu gyda fy mrand?
Dwi wrth fy modd gyda brandio! Dydw i ddim yn dylunio logos, ond yr hyn sydd orau gennyf yw sicrhau bod neges y brand yn cael ei gyfleu’n effeithiol. Nid eich logo yn unig yw’r brand, mae’n dôn y llais, yr iaith, y ffontiau, y lliwiau, yr arddull.
Dwi'n defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol yn aml, ond ydw i'n mynd ati y ffordd iawn?
Dyma, mae’n debyg, y cwestiwn mwyaf cyffredin i mi gael ei ofyn. Yn aml iawn, dydy pobl ddim yn siŵr os ydyn nhw’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn effeithiol. Gofynnwch i ‘ch hun, a ydy o’n gweithio i’ch busnes?
Ydych chi wedi gweld fy mlog?
Pa blatfform cyfryngau cymdeithasol?
Yn gynharach yn y mis, er bod ni ar gau i gleientiaid, aethom ati i dreulio'r wythnos yn gweithio ar nodau ein cwmni a’n busnes ni. Pan fyddwch chi mor brysur o wythnos i wythnos gyda chleientiaid, yn aml mae’n hawdd llaesu dwylo gyda’ch busnes’ch hun. Roeddem felly...
Gosod Nodau ar gyfer 2022
Yr wythnos diwethaf, er ein bod ar gau i gleientiaid, cawsom wythnos wedi'i neilltuo dim ond i'r busnes ei hun. Mae'n haeddu rhywfaint o faldod. Mor hawdd yw canolbwyntio ar waith eraill trwy’r flwyddyn ar draul diweddaru gwefannau, neu weithio ar eich busnes eich...
Cynllunio eich cynnwys Cyfryngau Cymdeithasol ymlaen llaw
Mae cadw fyny â phostio ar eich platfformau cyfryngau cymdeithasol yn tipyn o gamp. Yn ogystal, os ydych chi ar nifer o blatfformau gall fod yn anodd ymdopi gyda phopeth arall sydd angen i chi ei wneud. Dros y blynyddoedd dwi wedi defnyddio amryw o 'dechnegau'...