Mae cadw fyny â phostio ar eich platfformau cyfryngau cymdeithasol yn tipyn o gamp. Yn ogystal, os ydych chi ar nifer o blatfformau gall fod yn anodd ymdopi gyda phopeth arall sydd angen i chi ei wneud.

Dros y blynyddoedd dwi wedi defnyddio amryw o ‘dechnegau’ gwahanol i geisio canfod yr un sy’n gweithio orau. Er hynny, dydw i ddim yn hollol grediniol bod y fath beth yn bodoli, y cyfan allwch ei wneud yw dod o hyd i ‘r ffordd sy’n gweithio orau i chi a’ch busnes neu weithgareddau o ddydd i ddydd. Dwi’n ceisio dyrannu awr y dydd i’w wneud ar y diwrnod, neu neilltuo diwrnod yr wythnos o flaen llaw. Weithiau dwi wedi llwyddo i reoli mis o flaen llaw, adegau eraill mae’n faen tramgwydd.

Dyma beth dwi’n ei wneud ar hyn o bryd – hwyrach y gallai fod yn ddefnyddiol i’w rannu!

  • Nodi lawr y gwahanol fathau o gynnwys dwi’n gallu rhannu/creu am fis. Er enghraifft, rhannu erthyglau, rhannu blogiau, creu cynnwys fideo, templedi Canva, testun yn unig.
  • Yna, dwi’n meddwl am y pynciau dwi am eu rhannu dros y mis nesaf. Er enghraifft, os ydyn ni ym mis Ionawr yna mae’n debyg y byddwn i eisiau postio mwy am ddylunio gwefannau gan y gallai pobl fod yn chwilio am wefan newydd ar ddechrau’r flwyddyn. O’r pwnc yma, pa fath o bostiadau alla i eu gwneud? Rhai sy’n arddangos gwaith blaenorol, ateb cwestiynau, rhoi cyngor, arddangos ein profiad, ychydig o’r hyn sy’n digwydd tu ôl i’r llenni.
  • Yna rwy’n atodi’r pynciau/syniadau postio hynny, gyda’r mathau o gynnwys.
  • Dwi’n berson eithaf gweledol, felly bydden i wedyn yn nodi lawr y syniadau postio yma ar ffurf calendr fel mod i’n gallu gweld pryd maen nhw’n mynd allan, a gwneud yn siŵr bod y cynnwys yn amrywiol a ddim yn rhy ailadroddus.

Un peth dwi wedi ei ddysgu dros y blynyddoedd yw pan fydd rhywun yn dechrau meddwl am syniadau, bydd syniadau eraill yn byrlymu. Mae’n debyg mai ddull o’r enw ‘ysgrifennu rhydd’ (free writing)yw hyn, lle rydych chi yn y bôn yn gadael i’ch ymennydd ddilyn ei drywydd ei hun ond tra’n meddwl am bwnc penodol. Rhowch gynnig arni, efallai y bydd gennych chi fwy o gynnwys nag sydd ei angen arnoch am fis. Mae rhai pobl yn cynllunio eu cynnwys ymhell o flaen llaw – jyst i chi adael lle i bethau sy’n digwydd yn organig!