Yr Hyn Dwi’n Neud
Cyngor ar y Cyfryngau Cymdeithasol
Pâr ychwanegol o lygaid i roi rhai syniadau cynnwys ffres i chi ar gyfer eich cyfryngau cymdeithasol. Meddyliwch amdano fel cael mentor cyfryngau cymdeithasol.
Ymgynghoriaeth Cyfryngau Cymdeithasol
Cymorth i gynllunio eich nodau, penderfynu i ba drywydd rydych am eich cyfryngau cymdeithasol fynd, creu strategaeth ddigidol, a mwy. Cefnogaeth fanwl wedi ei deilwra i chi.
Hyfforddiant ar y Cyfryngau Cymdeithasol
Eisiau ei feistroli drosoch eich hun? Gallaf eich dysgu sut i ddefnyddio’r gwahanol blatfformau cyfryngau cymdeithasol, tra’n rhannu fy ngwybodaeth gyda chi ar sut i lwyddo ar-lein.
Rheoli Cyfryngau Cymdeithasol
Gadewch i mi ysgwyddo’r baich a rhedeg eich cyfryngau cymdeithasol i chi – tra byddwch chi’n rhedeg eich busnes. Mae’n un peth yn llai i chi boeni amdano, ac mae’n rhywbeth dwi wrth fy modd yn ei wneud!
Brandio
Rwy’n frwdfrydig am frandio gwych, a defnyddio’r brandio hyd eithaf eich gallu ar gyfer eich busnes. Byddaf yn gadael i chi wybod beth rydych chi’n ei wneud yn dda a beth y gellid ei wella.
Creu Cynnwys
P’un ai ar gyfer eich gwefan neu eich cyfryngau cymdeithasol, mae creu cynnwys newydd a chyffrous yn hynod bwysig. Rydych am lywio a dal eich cynulleidfa, yn ogystal â chynyddu ymgysylltiad a darparu cynnwys o ansawdd.
Adrodd ar y cyfryngau cymdeithasol
Ni wyddoch pa mor dda y mae eich cyfryngau cymdeithasol yn gweithio ar eich cyfer os nad ydych chi’n casglu mewnwelediadau ac yn defnyddio dadansoddeg. Yn ansicr beth i chwilio amdano? Mae’r cyfan yn dibynnu ar eich nodau.
Cynllunio Strategaeth
Fel gydag unrhyw fusnes mae angen strategaeth gref ar waith, yn enwedig os ydych chi’n defnyddio marchnata digidol. Bydd yn arbed amser i chi yn y pen draw, ac yn rhoi ffocws clir i chi.
Fy agwedd
Fel gydag unrhyw beth dwi’n ei wneud, mae’r cyfan wedi selio ar fod yn onest ac yn dryloyw. Wnâi ddim gwerthu i chi wasanaeth nad oes ei angen arnoch – iawn, efallai y byddaf yn colli allan ar fusnes, ond mae’n llawer gwell gen i ichi ddod yn ôl ata i pan fyddwch chi eisiau rhywbeth rydych chi wir ei angen!
Fy ffordd i o fynd o gwmpas pethau yw: dewch inni gyfarfod, gadewch i ni siarad a mi awn ymlaen o’r fan yno. Dydw i ddim yma i draethu, mae’n well o lawer gen i berthynas gytbwys agored gyda pawb yn cael dweud eu dweud. Wedi’r cyfan, eich busnes chi yw e.
Fy Hoff Ystadegau Cyfryngau Cymdeithasol Ar gyfer 2022
Pwy sydd ddim yn caru stat da? Dyma rai o fy ffefrynnau hyd yn hyn eleni!
%
Facebook yw'r platfform a ddefnyddir fwyaf ar gyfer marchnatwyr ledled y byd o hyd
%
gydag Instagram yn dod yn ail fel y platfform a ddefnyddir fwyaf ar gyfer marchnatwyr ledled y byd
munudau ar gyfartaledd y mae oedolion yn eu treulio ar gyfryngau cymdeithasol bob dydd
%
ymgysylltiad ar Instagram ar ei uchaf erioed (o gymharu â Facebook, ar 8%!)
%