Hyfforddiant ar y Cyfryngau Cymdeithasol

Sesiynau Hyfforddiant Cyfryngau Cymdeithasol

Dechreuwch Googlo, a fe ddowch o hyd i lwythi o syniadau, damcaniaethau, gair i gall pan ddaw hi at y cyfryngau cymdeithasol – boed hynny ar gyfer busnes, elusen neu eich brand personol eich hun. Felly, lle i ddechrau?

Yn gyntaf, mae’r cyfan yn dibynnu ar yr hyn rydych chi’n ei wneud. Gallaf draethu trwy’r dydd am strategaethau cyfryngau cymdeithasol ar gyfer y busnes lletygarwch – sydd o ddim werth os mai rhedeg busnes sy’n seiliedig ar wasanaeth yr ydych – mae’n hollol wahanol. Byddaf pob amser yn cynnal sesiynau hyfforddi sydd yn hollol bwrpasol i chi –yr hyn rydych chi’n ei wneud, a’r hyn rydych chi ei eisiau o’r cyfryngau cymdeithasol. Sydd yn wahanol gan bawb!

Ar ddiwedd ein sesiynau, dwi am i chi adael yn teimlo’n hyderus ac yn eiddgar! Hyderus i ddefnyddio’r sgiliau rydych chi wedi’u dysgu ac yn eiddgar i ddechrau ar y gwaith a rhoi hwb i’ch cyfryngau cymdeithasol. Byddaf hefyd yn rhannu adnoddau gwych yr wyf i wrth fy modd yn eu defnyddio yn fy musnes ddydd i ddydd.

 

Rwy’n defnyddio cyfryngau cymdeithasol bob dydd, ac rwyf wrth fy modd! Dysgu sgiliau newydd, cadw i fyny â’r dirwedd sy’n newid yn barhaus.

Rwy’n mynychu cynadleddau cyfryngau cymdeithasol a marchnata digidol ledled y DU i gadw fy hun ar y brig o ran cyfryngau cymdeithasol. Yn ystod 2023 fe ddewch o hyd i mi yn y Gynhadledd Menywod Digidol ac Atomicon!

Mynd hefyd? Dewch i ni gwrdd am baned.

Llai o Fri-eiriau (Buzzwords)… Mwy o hyfforddiant

Mae’r cyfryngau cymdeithasol a marchnata digidol yn llawn bri-eiriau – ond dewch i ni siarad mewn iaith pob dydd. Felly, ffwrdd a “cynhyrchu cynnwys” a helo “syniadau ar beth i’w bostio”! Dyma ond ychydig o’r hyn y mae fy hyfforddiant ar y cyfryngau cymdeithasol yn ei gynnwys.

R

Cael y gorau o'r platfformau

Facebook, Twitter, Pinterest, Instagram … mae yna lwythi o ddewis. Ond ydych chi’n eu defnyddio hyd eithaf eich gallu?

R

Awgrymiadau ar greu cynnwys

Gall fod yn anodd meddwl am syniadau, felly gadewch i ni sgwrsio am yr hyn y gallwch ei bostio, a’r adnoddau y gallwch eu defnyddio i’ch helpu.

R

Creu strategaeth farchnata

Mae meddu ar gynllun cryf yn bwysig iawn os ydych chi am lwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol.

R

Pwysigrwydd dadansoddeg

Does dim pwynt gwneud yr holl waith caled yma os nad ydych chi’n cymryd golwg ar y canlyniadau. Ond gyda chymaint o ddata, beth ydych chi fod i edrych arno?

Fy Mhecynnau

Un-i-un

Mae sesiynau un-i-un yn werthfawr am iddo roi’r cyfle i mi ddod i ddeall pwrpas eich busnes, eich nodau a sut y gallaf eich helpu’n benodol.

Ceir digon o opsiynau amser – o sesiwn awr hyd at ddiwrnod llawn. Gallech hyd yn oed edrych ar danysgrifiad misol am awr o’m amser pob mis.

Archebu Amser

Grwpiau Bach

Perffaith ar gyfer busnesau neu sefydliadau, a gallwn gwmpasu ystod helaeth o bynciau a phlatfformau dros gyfnod o hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn.

Efallai eich bod o wahanol fusnesau/cwmnïau ond gyda’r un nodau neu lefel o brofiad ar y cyfryngau cymdeithasol? Beth am ddod at eich gilydd am sesiwn hyfforddi?

Archebu Amser

Arddull Gweithdai

Gall cynnal digwyddiad ar ffurf gweithdy i ddysgu am y cyfryngau cymdeithasol a marchnata digidol fod yn hynod effeithiol. Byddwn yn agor trafodaeth, fel y gall pawb rannu awgrymiadau a syniadau– holl ddiben y gweithdy yw dysgu, cydweithio a chefnogi ein gilydd.

Archebu Amser