Pa blatfform cyfryngau cymdeithasol?

Pa blatfform cyfryngau cymdeithasol?

Yn gynharach yn y mis, er bod ni ar gau i gleientiaid, aethom ati i dreulio’r wythnos yn gweithio ar nodau ein cwmni a’n busnes ni. Pan fyddwch chi mor brysur o wythnos i wythnos gyda chleientiaid, yn aml mae’n hawdd llaesu dwylo gyda’ch busnes’ch hun. Roeddem felly wir yn awyddus i dreulio’r amser yn sgwrsio, rhannu syniadau a sicrhau bod popeth yn ei le ar gyfer gwneud 2022 yn arbennig.

Yn ystod un o’n sesiynau trafod, buom yn nodi rhestr o awgrymiadau gorau ar gyfer cyfryngau cymdeithasol. Roedd y syniadau yn bennaf ar gyfer Reels ar Instagram, ond yn fuan arweiniodd y drafodaeth i drafod a ddylen ni ddefnyddio TikTok, arallgyfeirio mewn i Clubhouse, neu ddefnyddio Spaces ar Twitter.

Gwnaeth hyn i mi feddwl – rydym ni, fel cwmni, yn hyddysg iawn â’r un platfformau rydyn ni wastad wedi’u defnyddio: Facebook, Twitter, LinkedIn ac Instagram. Rydym yn bendant yn cofleidio unrhyw ddiweddariadau a newidiadau newydd, ac yn sicrhau ein bod yn gwneud defnydd llawn o’r swyddogaeth. Fodd bynnag, pan ddaw platfformau newydd i’r fei, sut ydych chi’n penderfynu a ddylech chi roi mwy o amser iddyn nhw?

Er enghraifft, rydyn ni’n defnyddio’r pedwar platfform uchod yn rheolaidd, ac rydyn ni hefyd yn blogio. Mae hyn yn waith caled i fusnes bach, ond o ystyried ein maes o arbenigedd rydym am arwain drwy esiampl, a bod yn bresennol ar-lein.

Dros y 12 mis diwethaf mae ambell un wedi dweud wrtha i y dylen ni’n bendant fod ar y llwyfannau eraill. Rydyn ni eisoes yn edrych ar TikTok, Clubhouse, Reddit – ac mae’n siŵr bod sawl un arall. Sut ydych chi felly yn dewis pa blatfform i’w ddefnyddio – tra hefyd yn cydnabod mai dim ond oriau cyfyngedig sydd o fewn diwrnod gwaith a bod angen i chi ganolbwyntio ar y gwaith bara menyn er mwyn ennill arian i dalu’r biliau.

Yna trodd fy meddwl at ddadansoddeg (yn naturiol!). Fodd bynnag, faint ellir ymddiried yn y rheini? Dwi’n ymwybodol bod llawer o’n ymholiadau i’r busnes yn dod trwy Facebook ac argymhellion personol; ond eto byddai ein dadansoddeg yn awgrymu ein bod yn gwneud yn dda iawn ar Instagram a Twitter. Wrth gwrs, rydym yn gwybod i gymryd dadansoddeg gyda phinsiad o halen, dydyn nhw ddim yn rhoi’r darlun llawn i chi – ond mae hynny’n ei gwneud hi’n anoddach i mi benderfynu a ydyn ni’n buddsoddi mwy o amser mewn platfform newydd neu beidio, ac ydyn ni’n gwneud hynny yn ychwanegol at yr ymdrechion sydd eisoes yn eu lle.

Yna, rhaid meddwl am y gynulleidfa darged – i ni mae’n gynulleidfa weddol eang. Rydym yn targedu busnesau a sefydliadau bach, a staff y busnesau a’r sefydliadau hynny a allai fod â diddordeb mewn gwefannau, hyfforddiant WordPress, cyfryngau cymdeithasol a marchnata digidol. Mae’n eithaf eang, a dyna pam rydym o’r farn bod y 4 platfform rydyn ni’n eu defnyddio ar hyn o bryd yn gweithio’n dda. Er enghraifft ar LinkedIn rydym yn canolbwyntio ar bostio busnes i fusnes, tra efallai ar Twitter mae mwy o ganolbwyntio ar sefydliadau na busnesau bach. Mae i bob platfform ei rinweddau a’u strategaeth ei hun gennym ni.

Wrth gwrs, rwy’n amau mai’r y gwir yw na fyddwn yn gwybod nes byddwn ni’n profi. Ydyn ni felly’n rhoi rhywfaint o amser ychwanegol ar gyfer treialu platfform newydd i weld sut mae’n gweithio i ni, tra’n ceisio ailfeddiannu cynnwys?

Beth fyddech chi’n ei wneud?

Cynllunio eich cynnwys Cyfryngau Cymdeithasol ymlaen llaw

Cynllunio eich cynnwys Cyfryngau Cymdeithasol ymlaen llaw

Mae cadw fyny â phostio ar eich platfformau cyfryngau cymdeithasol yn tipyn o gamp. Yn ogystal, os ydych chi ar nifer o blatfformau gall fod yn anodd ymdopi gyda phopeth arall sydd angen i chi ei wneud.

Dros y blynyddoedd dwi wedi defnyddio amryw o ‘dechnegau’ gwahanol i geisio canfod yr un sy’n gweithio orau. Er hynny, dydw i ddim yn hollol grediniol bod y fath beth yn bodoli, y cyfan allwch ei wneud yw dod o hyd i ‘r ffordd sy’n gweithio orau i chi a’ch busnes neu weithgareddau o ddydd i ddydd. Dwi’n ceisio dyrannu awr y dydd i’w wneud ar y diwrnod, neu neilltuo diwrnod yr wythnos o flaen llaw. Weithiau dwi wedi llwyddo i reoli mis o flaen llaw, adegau eraill mae’n faen tramgwydd.

Dyma beth dwi’n ei wneud ar hyn o bryd – hwyrach y gallai fod yn ddefnyddiol i’w rannu!

  • Nodi lawr y gwahanol fathau o gynnwys dwi’n gallu rhannu/creu am fis. Er enghraifft, rhannu erthyglau, rhannu blogiau, creu cynnwys fideo, templedi Canva, testun yn unig.
  • Yna, dwi’n meddwl am y pynciau dwi am eu rhannu dros y mis nesaf. Er enghraifft, os ydyn ni ym mis Ionawr yna mae’n debyg y byddwn i eisiau postio mwy am ddylunio gwefannau gan y gallai pobl fod yn chwilio am wefan newydd ar ddechrau’r flwyddyn. O’r pwnc yma, pa fath o bostiadau alla i eu gwneud? Rhai sy’n arddangos gwaith blaenorol, ateb cwestiynau, rhoi cyngor, arddangos ein profiad, ychydig o’r hyn sy’n digwydd tu ôl i’r llenni.
  • Yna rwy’n atodi’r pynciau/syniadau postio hynny, gyda’r mathau o gynnwys.
  • Dwi’n berson eithaf gweledol, felly bydden i wedyn yn nodi lawr y syniadau postio yma ar ffurf calendr fel mod i’n gallu gweld pryd maen nhw’n mynd allan, a gwneud yn siŵr bod y cynnwys yn amrywiol a ddim yn rhy ailadroddus.

Un peth dwi wedi ei ddysgu dros y blynyddoedd yw pan fydd rhywun yn dechrau meddwl am syniadau, bydd syniadau eraill yn byrlymu. Mae’n debyg mai ddull o’r enw ‘ysgrifennu rhydd’ (free writing)yw hyn, lle rydych chi yn y bôn yn gadael i’ch ymennydd ddilyn ei drywydd ei hun ond tra’n meddwl am bwnc penodol. Rhowch gynnig arni, efallai y bydd gennych chi fwy o gynnwys nag sydd ei angen arnoch am fis. Mae rhai pobl yn cynllunio eu cynnwys ymhell o flaen llaw – jyst i chi adael lle i bethau sy’n digwydd yn organig!

Tueddiadau Cyfryngau Cymdeithasol: 2022

Tueddiadau Cyfryngau Cymdeithasol: 2022

Rydw i wedi bod yn darllen llawer o’r tueddiadau cyfryngau cymdeithasol a ragwelir ar gyfer y flwyddyn nesaf. Tra bod rhai yn aros yr un fath, efallai nad yw eraill yn berthnasol i fy nghleientiaid na’m cynulleidfa darged felly, rwyf wedi rhestru islaw rhai o’r rhai rwy’n teimlo y dylem fod yn ymwybodol ohonynt ac yn cadw mewn cof.

TikTok

Ar draws yr holl safleoedd ddarllenais, y duedd a ddaw i’r brig yw mai TikTok fydd y platfform amlycaf. Mae eisoes yn dringo’n araf i fyny’r tablau, ond y rhagfynegiadau yw y bydd yn tra-arglwyddiaethu cyn bo hir, yn enwedig wrth i ni barhau i symud tuag at gynnwys fideo ffurf fer. A fyddwch chi’n ychwanegu TikTok at eich strategaeth marchnata digidol?

Bydd ‘Masnach’ cymdeithasol yn parhau i dyfu

Rydym eisoes wedi gweld tipyn o symud tuag at hyn gyda Siopau Instagram a Facebook wrth gwrs, ond y darogan yw y bydd mwy a mwy ohono, bydd cwsmeriaid yn disgwyl gallu prynu’n uniongyrchol oddi ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol (ac yn y bôn, peidio gorfod ymweld a’ch siop ar-lein i’w prynu). Fy argymhelliad i yw, os ydych chi’n defnyddio Siopau ar-lein yn barod, parhewch i ddatblygu hyn, a gwnewch yn siŵr eich bod chi’n mesur eich llwyddiant.

Fideo

Alla i wir ddim ysgrifennu post am dueddiadau’r flwyddyn nesaf heb sôn am fideo. Mae’n codi‘n rheolaidd o flwyddyn i flwyddyn. Ai 2022 yw’r flwyddyn y gwelwn llawer mwy o ddefnydd ar fideo? Mae wedi bod yn gyfrwng cynyddol ar y cyfryngau dros y blynyddoedd diwethaf, a thrwy hynny rydym wedi dysgu beth mae cwsmeriaid yn eu defnyddio. Ffurf fer, fideos dymunol. Mae fideos yn ein helpu i greu gwell cysylltiadau a pherthnasau gyda’n cynulleidfa, ac unwaith eto, mae’n cael ei hyrwyddo yn 2022.

Nodau Cyfryngau Cymdeithasol

Rhagolwg arall ar gyfer 2022 yw y bydd nifer o fusnesau a sefydliadau yn rhestru “cyrraedd cynulleidfaoedd newydd” fel eu prif reswm dros fod ar y cyfryngau cymdeithasol – rhywbeth y byddwn yn llwyr gytuno ag o! Mae gan y cyfryngau cymdeithasol gymaint o botensial i ni wneud hyn, yn organig a thrwy hysbysebion wedi’u talu amdanynt.

Swyddi penodol i’r cyfryngau cymdeithasol

Gyda’r cynnydd yn y cyfryngau cymdeithasol er mwyn cyrraedd cwsmeriaid newydd, ar gyfer cysylltu â chynulleidfaoedd, ar gyfer gwasanaeth cwsmeriaid – byddwn yn gweld cynnydd enfawr mewn swyddi penodol ar gyfer marchnata cyfryngau cymdeithasol. O’r hyn a welais drwy 2021, ceir swyddi penodol eisoes yn y maes hwn, sydd, yn y bôn yn profi pa mor bwysig yw’r cyfryngau cymdeithasol ar gyfer unrhyw fusnes.

Bydd busnesau’n anghofio’r hanfodion

Roedd yn eithaf diddorol ddarllen hyn oherwydd dros y flwyddyn diwethaf daethom ar draws nifer o fusnesau lle rydym ni wedi argymell yr angen iddynt sicrhau fod y pethau sylfaenol yn iawn ac yn eu lle cyn bwrw ymlaen. Hanfodion sy’n cynnwys postio’n organig, gwneud defnydd o’r nodweddion sydd ar gael ac adnabod eich cynulleidfa darged. Mae rhai proffwydoliaethau ar gyfer y flwyddyn nesaf yn awgrymu bod hyn yn ‘duedd’ sy’n tyfu, ond dylem fyth anghofio’r hanfodion.

Bydd sain yn tyfu

Dechreuodd cyfryngau cymdeithasol sain go iawn yn 2021 gyda Clubhouse, a chyflwynodd Twitter, Spaces, hefyd. Y dybiaeth yw y bydd ‘Spaces’ Twitter yn parhau i dyfu, a bydd newid i gyfryngau cymdeithasol sain yn digwydd o fewn rhai sectorau. Peidiwch ag anghofio podledio hefyd!

Pam ein bod yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol?

Pam ein bod yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol?

Dros yr haf rwyf wedi bod yn gweithio gydag ystod o gleientiaid newydd, a hefyd yn paratoi fy nghwrs cyfryngau cymdeithasol arfaethedig i Brifysgol Aberystwyth. Wrth gynllunio gwersi, neu sgwrsio â chleientiaid, dwi wedi gwneud nodyn o rai pethau ddaeth i’r meddwl.

Un ohonyn nhw oedd – pam ein bod ni’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol? Yn aml dwi’n gweld cleientiaid yn poeni’n ormodol faint o egni ac ymdrech sydd angen iddynt roi i’w marchnata, a dwi’n meddwl ein bod ni’n aml yn anghofio pam ein bod ni ar y cyfryngau cymdeithasol yn y lle cyntaf.

Yr hanfod, wrth gwrs yw ein bod ar y cyfryngau cymdeithasol i farchnata ein cynnyrch. Fodd bynnag, yr hyn byddaf bob amser yn atgoffa fy nghleientiaid ohono, ac yn ei grybwyll yn fy nghwrs yw – bod y cyfryngau cymdeithasol i gyd yn ymwneud a bod yn gymdeithasol. Rwy’n credu y gallwn lynu cymaint at ein strategaeth neu gynllun cynnwys (neu hyd yn oed, diffyg hyn) fel ein bod yn ei anghofio.

Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn offeryn rydyn ni’n ei ddefnyddio i ddod o hyd i’n cynulleidfa, cysylltu â nhw a gobeithio eu bod nhw wedyn yn cysylltu ac yn ymwneud â ni. Dyw e ddim mor gymhleth ag yr ydym yn tueddu i feddwl. Does dim rhyw swyn hud sy’n golygu y bydd ein un post yn mynd yn feirol. Does dim rheolau penodol ynglŷn â’r hyn y dylen ni neu na ddylen ni eu postio.

Yn y pendraw, mae i gyd i wneud a sicrhau bod ein cynnwys yn berthnasol. Ydy’n cynulleidfa ni yn perthnasu gyda ni am fod ganddyn nhw’r un problemau neu heriau, neu’r un llwyddiannau? Ydyn ni’n gallu uniaethu ar yr un lefel am ein troeon trwstan coginio, neu ein gamgymeriadau siopa?

Rydyn ni i gyd yn ddynol wrth gwrs a bydd arddangos y person ydych chi tu ôl i’ch cyfryngau cymdeithasol a gadael i’r person hynny ddisgleirio drwyddo, yn talu ar ei ganfed i’ch marchnata. Mae hefyd yn ei gwneud hi’n llawer haws cynllunio a meddwl amdano hefyd, pan fyddwn ni’n cofio bod yn rhaid i ni fod yn gymdeithasol, bod yn ddynol.

Felly, y tro nesaf rydych chi’n torri’ch calon am, neu’n wylofain mewn anobaith fod y cyfryngau cymdeithasol yn rhy galed neu nad oes gennych ddim syniad beth i’w wneud – ewch yn ôl i’r hanfodion. Byddwch yn chi ’ch hun!