Cysylltwch
Gyrru Neges
Cwestiynau Cyffredin
Does gen i ddim syniad am y cyfryngau cymdeithasol. allwch chi helpu?!
Medraf eich helpu o’r cychwyn cyntaf. Byddwn yn mynd yn ôl at yr hanfodion ar y platfformau cyfryngau cymdeithasol rydych am eu defnyddio ar gyfer eich busnes ac yn gweithio gyda’n gilydd i sicrhau bod gennych ddealltwriaeth drwyadl o’r hyn sy’n bosib!
Allwch chi redeg fy nghyfryngau cymdeithasol i mi?
Gallaf, rwy’n cynnig amrywiaeth o becynnau ar gyfer rheoli cyfryngau cymdeithasol. Os ydych chi’n credu bod hwn yn opsiwn rydych chi am edrych arno, yna cysylltwch a chawn sgwrs!
Dwi'n defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol, ond does gen i ddim strategaeth...
Yn dibynnu ar faint eich busnes, nid yw hyn bob amser yn beth *drwg*, ond byddwn i’n argymell gosod rhyw fath o strategaeth yn ei lle! Nid yw pob strategaeth yn addas ar gyfer pob busnes, felly gweithiwch gyda mi i ganfod yr un sy orau i chi.
A allwch chi fy helpu gyda fy mrand?
Dwi wrth fy modd gyda brandio! Dydw i ddim yn dylunio logos, ond yr hyn sydd orau gennyf yw sicrhau bod neges y brand yn cael ei gyfleu’n effeithiol. Nid eich logo yn unig yw’r brand, mae’n dôn y llais, yr iaith, y ffontiau, y lliwiau, yr arddull.
Dwi'n defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol yn aml, ond ydw i'n mynd ati y ffordd iawn?
Dyma, mae’n debyg, y cwestiwn mwyaf cyffredin i mi gael ei ofyn. Yn aml iawn, dydy pobl ddim yn siŵr os ydyn nhw’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn effeithiol. Gofynnwch i ‘ch hun, a ydy o’n gweithio i’ch busnes?
Ydych chi wedi gweld fy mlog?
Tueddiadau Cyfryngau Cymdeithasol: 2022
Rydw i wedi bod yn darllen llawer o'r tueddiadau cyfryngau cymdeithasol a ragwelir ar gyfer y flwyddyn nesaf. Tra bod rhai yn aros yr un fath, efallai nad yw eraill yn berthnasol i fy nghleientiaid na'm cynulleidfa darged felly, rwyf wedi rhestru islaw rhai o'r rhai...
Pam ein bod yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol?
Dros yr haf rwyf wedi bod yn gweithio gydag ystod o gleientiaid newydd, a hefyd yn paratoi fy nghwrs cyfryngau cymdeithasol arfaethedig i Brifysgol Aberystwyth. Wrth gynllunio gwersi, neu sgwrsio â chleientiaid, dwi wedi gwneud nodyn o rai pethau ddaeth i’r meddwl. Un...